SL(6)163 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2022

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”), gan gael effaith o 28 Chwefror 2022, i gulhau cwmpas rheoliad 20 o’r prif Reoliadau drwy ddarparu rhestr hollgynhwysol o’r mangreoedd y mae’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn gymwys iddynt.

Mae’r gofyniad bellach yn gymwys i’r ardaloedd cyhoeddus o dan do’r mangreoedd a ganlyn, pan fydd gan y cyhoedd fynediad iddynt:

·         mangreoedd busnesau sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau i’w gwerthu neu eu llogi, gan gynnwys mangreoedd a restrir ym mharagraffau (a) i (m) o baragraff 39 o Atodlen 7 i’r prif Reoliadau (gan gynnwys darparwyr gwasanaethau ariannol, swyddfeydd post a chanolfannau siopa);

·         mangreoedd milfeddygon a gwasanaethau tocio a golchi anifeiliaid;

·         cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau;

·         mangreoedd asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos;

·         mangreoedd gwasanaethau cysylltiad agos (salonau gwallt a barbwyr, salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis, a gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio);

·         mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu cludfwyd;

·         mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol neu iechyd;

·         mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau gofal dydd i oedolion.

Mae’r diwygiadau yn golygu nad yw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys mwyach i fathau penodol o fangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd megis mangreoedd hamdden ac adloniant, ac atyniadau i ymwelwyr.

Mae’r diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn glir nad yw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys i breswylwyr y mangreoedd gofal cymdeithasol a restrir pan fydd y preswylwyr yn y fangre

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Rydym yn nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Er bod y prif Reoliadau, fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae’r Llywodraeth o’r farn bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaeniad clefydau heintus a/neu fod hawl i wneud yr ymyriad ar y sail ei fod yn ceisio cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r Llywodraeth hefyd o’r farn eu bod yn gymesur.

Mae’r prif Reoliadau yn cyffwrdd ag Erthygl 5 (yr hawl i ryddid), Erthygl 8 (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol), Erthygl 9 (yr hawl i ryddid mynegiant, cydwybod a chrefydd), Erthygl 11 (yr hawl i ymgynnull ac ymgysylltu’n rhydd ag eraill) ac Erthygl 1 o’r Protocol Cyntaf (diogelu eiddo).

Mae pob un o’r rhain yn hawliau amodol, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd ag arfer yr hawliau os oes angen gwneud hynny mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch y cyhoedd neu er mwyn diogelu iechyd. Rhaid cyfiawnhau’r holl gyfyngiadau a gofynion o’r fath ar y sail mai eu bwriad yw cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur i’r nod hwnnw. Rhaid hefyd cydbwyso unrhyw ymyrraeth â’r hawliau hyn â rhwymedigaethau cadarnhaol y wladwriaeth o dan Erthygl 2 (yr hawl i fywyd). Mae addasu’r gofynion o dan y prif Reoliadau drwy’r Rheoliadau hyn yn ymateb cymesur i ledaeniad y coronafeirws. Mae’n cydbwyso’r angen i gynnal ymateb priodol i’r bygythiad a berir gan y coronafeirws yn erbyn hawliau unigolion a busnesau, mewn modd sy’n parhau’n gymesur â’r angen i leihau cyfradd trosglwyddo’r coronafeirws, gan ystyried y dystiolaeth wyddonol.”

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Oherwydd y bygythiad parhaus sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd y cyhoedd cymesur a brys, ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, ymgysylltwyd ag amrywiol randdeiliaid.”

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn fod y rheol 21 diwrnod wedi’i thorri (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fynd heibio rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a nodwn yr esboniad am dorri’r rheol a ddarparwyd gan Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 24 Chwefror 2022.

Yn benodol, nodwn fod y llythyr yn dweud:

“Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod cyfyngiadau a gofynion y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

7 Mawrth 2022